Yn fy nghynigion diweddar i greu Collagraph da, dwi wedi methu i gael y canlyniadau o’n isio, gyda’r papur yn sticio I’r plat, ond dwi wedi prynnu inc intaglio (cynt yn defnyddio ‘Graphic Block Ink’), a socio’r apur yn hirach, a mae’r canlyniadau wedi bod yn well.
Mae na 20 mlynedd ers i mi fod yn y Brifysgol yn astudio argraffu ac felly dwi wedi anghofio llawer iawn o’r dulliau, a’r manylion bach yna sy’n neud byd o wahaniaeth.
Mae’n gallu bod yn rhywstredig pan wyt ti’n trio cael canlyniadau ar ben dy hun, heb rywun i di arwain, ac mae hyn yn un o’r rhesymau pan benderfynais fynd nol i’r brifysgol i neud MA.
Dyma fy mab Elis yn ymgolli mewn chwarae, rhywbeth dwi’n hoffi cofio.



コメント