top of page
Y Gweithdy
​
Mae fy ngweithdy yn Machynlleth, Powys, yn ofod perffaith i ddod am weithdy cychwynol mewn argraffu leino.
Gan ddefnyddio eich syniadau a'ch dyluniadau chi, mae cyfle i greu plat leino, cymysgu eich hoff liwiau mewn inc, ac argraffu eich darn o waith celf unigryw.
​
Mae gen i le ar gyfer 4 person ym mhob gweithdy yn gyfforddus (ond yn gallu croesawu mwy!), am weithdy mewn rhan hyfryd o Gymru, yng nghanol y mynyddoedd, gyda posibilrwydd i weld barcud, creyr glas neu cwrdd a'r asyn!
​
Amser y gweithdy yw 10:00 - 2:00, a'r gost ydy £75 y person.
I drefnu eich gweithdy chi cysylltwch trwy e-bost: elincrowley@gmail.com
​
Ynghylch
bottom of page