top of page
elincrowley

Y GWEITHDY

Heb os, fy ngweithdy ydy fy lle hapus. Does dim signal yma, mae’n gynnes a chlud, a mae popeth dwi angen yno (a dim golwg o’r sinc, peiriant golchi na'r hwfer i dynnu sylw).


Y gweithdy oedd fy mhrosiect cyfnod clo, ac dwi’n ffodus iawn o gael gwr ymarferol oedd yn gallu adeiladu fy ngweithdy delfrydol i mi. Lwcus lwcus iawn. Gweithdy wedi ei adeiladu mewn rhan o’r sied amaethyddol ydy hi, yn yr hen lofft wellt sydd ddim yn cael ei ddefnyddio bellach. Mae popeth dwi angen yma, bwrdd, cadeiriau, gwasg, stordy ar gyfer defnyddiau, wal fawr a tecell!

Heddiw fe ges i fy niwrnod cyntaf yn y gweithdy i gael fy nanedd fewn i’r bywyd newydd yma sydd genai o fod yn fyfyriwr MA, a chael rheswm i ganolbwyntio ar fy ngwaith celf.

Dwi’n cael teimlad o euogrwydd yn neud yn union be dwisio trwy’r dydd ynlle rhywbeth I werthu neu comisiwn, gwirion ynde.


Machynlleth
Elin yn ei gweithdy yn argraffu.

mae fy mhlant yn ysbrydoliaeth.

Dyma astudiaerthau ohonyn nhw yn ymgolli mewn rhywbeth, rhywbeth dwi'n caru gweld nhw'n neud.

Collagraph plate
Gwenlli, Collagraph.

Collagraph plate
Magi, Collagraph.

Collagraph
Paratoi plat Elis.




Comments


bottom of page