Dwisio dofennu y diwrnod hyfryd yma i fi fy hun, pan nath yr eira gyraedd, roedd y plant adre' o'r ysgol a natho ni sketchio'r eira.
Roedd y cyferbyniad rhwng yr eira a'r coed yn brydferth ac yn gwneud darlunio'r tirlun yn haws. Roedd cael amser gyda fy merch, yn eistedd ar y llawr, yn bod yn llonydd (er nid yn dawel), yn achlysur prin oherwydd prysurdeb bywyd, a dwi'n pendroni pam bod hi mor anodd gwneud hyn ddigwydd. Dyma be dwi'n garu am ddyddiau eira.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar daeth Pete Monaghan (http://www.petemonaghan.com/) i siarad gyda ni a cefais fy ysbrydoli ganddi i fraslunio mwy, rhywbeth sydd ddim yn cael ei flaenoriaethu, ond yn amlwg sy'n hanfodol i be dwi'n trio greu. Fe ddangosodd ei offer i ni, llyfr braslunio bach, fine liner a brush pen, syml.
Mae braslunio i fi yn ymlaciol dros ben a'r unig amser lle nadw i'n gorfeddwl popeth dwi'n greu.
Comments