Yr arddangosfa sydd yn MOMA, Machynlleth ar hyn o bryd yw Flux gan Steve Kingston.
Gweithiais efo Steve pan oeddwn yn ymchwilydd teledu gyda cwmni teledu Fflic. Steve oedd y dyn camera (un gwych ar hyny), a treuliom wythnosau yn teithio oamgylch Cymru yn ymweld a chartrefi pobl diddorol i’w ffilmio.
Ar yr olwg cyntaf roedd yr arddangosfa hon yn gwneud argraff. Y lliwiau, maint y gwaith, y defnydd diddorol o fetal fel arwyneb, a’r pleser pur o’r defnydd o liw a siap. Mae angen amser i allu amsugno pob elfen o’r gwaith, ar hiraf yr oeddwn yn edrych arnyn nhw y mwyaf ro’n i’n cael allan ohonynt, teimlad o ymgolli yn y gwaith. mae’r arddangosfa hon yn arbennig ac yn werth trip i Fachynlleth i’w gweld.
Dyma linc i gael mwy o wybodaeth:
https://moma.cymru/en/e/stephen-kingston/




Comentarios