Heddiw fe wnes i greu collograph tetra pack am y tro cynta. Mae’r plat argraffu wedi ei greu allan o garton sudd oren, sydd a haenen sgleiniog tebyg i ffoil. Y broses ydy tynnu haenen o’r haen sgleiniog i ffwrdd gyda chyllell i greu’r darnau tywyll, dyma lle bydd yr inc yn cael ei amsugno.
Fe ddefnyddiais i sied leol fel man cychwyn. Daeth yr ysbrydoliaeth o luniau weles i ar Instagram o adeiladau gwledig gan Karen Wicks @iacartroom.
Mae’n broses syml iawn a gallwch edrych ar y fideo isod gan y cwmni Handprinted i ddysgu sut i wneud collograph:
I use AQUA intaglio ink bought from Jacksons Art Suppliers, a great printmaking supplier
Dyma fy mhlat cyn ei argraffu. Dwi wedi tynnu haenen dop gyda cyllell, dyma'r rhannau lle bydd yr ink yn cael ei amsugno. Dwi hefyd wedi crafu mewn i'r plat gyda nodwydd etchio.
Dyma'r plat wedi ei incio. Dwi wedi rhoi'r inc arno gyda darn o gerdyn mownt, tynnu'r rhan fwyaf o'r inc oddi arno gyda darn o sgrim, yna rwbio papur tishw i orffen.
I greu'r darnau golau iawn (fel to y sied), dwi wedi tynnu inc oddi arno gyda cotton bud.
Dyma'r print gorffenedig, wedi ei brintio ar bapur Fabriano.
Dwi'n hoff iawn o ansawdd llwydaidd y print, sy'n debyg i hen lun, sy'n ennyn teimlad hiraethus.
Gwaith Karen Wicks. mae hi yn argraffwr sy'n cael ei hysbrydoli gan hen adeiladau sydd wedi adfeilio.
#iacartroom, https://www.instagram.com/iacartroom/, https://linktr.ee/karenwicks
#iacartroom, https://www.instagram.com/iacartroom/, https://linktr.ee/karenwicks
Comentarios